Syniadau ar gyfer Parc Velo Wrecsam
Mae Parc Velo Wrecsam yn gynnig cyffrous i greu cartref newydd pwrpasol ar gyfer beicio a chwaraeon olwynion ar yr hen gwrs golff ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, Wrecsam. Ei nod yw darparu trac cylch diogel, di-draffig ar gyfer ymarfer, hyfforddi a chystadlu, ynghyd â lleoedd addas i deuluoedd a llwybrau oddi ar y ffordd. Bydd y prosiect yn cefnogi ffyrdd iachach o fyw, cyfleoedd newydd i bobl ifanc, a manteision ehangach ar gyfer twristiaeth, digwyddiadau a gweledigaeth Wrecsam fel dinas chwaraeon a hamdden.
Mae’r prosiect hwn yn ei gamau cychwynnol ar hyn o bryd, ac nid yw’r digwyddiad hwn yn ymgynghoriad ar gais cynllunio. Y bwriad yw profi’r syniad, archwilio dewisiadau a deall safbwyntiau lleol. Os dangosir bod y cynnig yn hyfyw a bod ganddo gefnogaeth gyffredinol gan y gymuned, gellid cyflwyno cais cynllunio yn ddiweddarach. Fel perchnogion Parc Gwledig Dyfroedd Alun, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn adolygu’r gwaith dichonoldeb llawn cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch symud ymlaen gyda’r cynigion neu beidio.
Clwb Beicio Wrecsam – a sefydlwyd yn 1937 – sy’n arwain y cyfnod cysyniadol cynnar hwn ac maen nhw’n awyddus i’ch syniadau helpu i lunio’r dyluniad wrth i gynlluniau ddatblygu, gan sicrhau bod unrhyw gyfleuster ar gyfer y dyfodol yn cael ei greu i’r gymuned gyfan.
Y Cyfleusterau
Bydd y cynllun arfaethedig, Parc Velo Wrecsam, yn cynnig lle diogel, di-draffig ar gyfer teithio ac amrywiaeth helaeth o chwaraeon olwynion di-fodur. Yn ei ganol mae trac cylch caeedig 1.6km, wedi ei ffensio’n llawn er mwyn diogelwch ac wedi’i gynllunio ar gyfer ymarfer, hyfforddi, cystadlu a hamdden. Bydd cyfres o bontydd yn galluogi rhannu’r tract yn ddolenni llai fel y gall grwpiau lluosog – plant, dechreuwyr, clybiau, ysgolion neu gyfranogwyr para-chwaraeon – ymarfer yr un pryd.
Byddai gan y safle fynedfa giât, lle i barcio tua 80 o gerbydau, a lle diogel i storio mewn blychau llongau wedi’u haddasu, gyda’r potensial am doiledau a chaffi bach “dros dro” wrth i’r prosiect ddatblygu.
Ochr yn ochr â’r prif gylch, byddai llecyn oddi ar y ffordd yn defnyddio llethrau presennol y safle i ddarparu lle ar gyfer beicio traws a sgiliau beicio mynydd, gan gynnig beicio cyffrous i bobl o bob gallu. Byddai lle ychwanegol i barcio a gwell llwybrau i wylwyr ac ymwelwyr yn cwblhau cyfleuster hyblyg, cymunedol.
Y Safle
Yn dilyn adolygiad o sawl lleoliad posibl ledled Wrecsam, cafodd hen Gwrs Golff Fore ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun ei ganfod fel y safle mwyaf ymarferol.
Mae’r tir yn eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mae eisoes yn gysylltiedig â hamdden, ac mae ganddo eisoes y manteision o ffyrdd mynediad, lleoedd parcio a chyfleusterau gerllaw. Mae ei leoliad yn cynnig hygyrchedd rhagorol mewn car, bws, neu wrth gerdded a beicio, gan hefyd ddarparu lleoliad sy’n teimlo’n gysylltiedig â natur.
Mae ailddefnyddio’r tir mewn modd cadarnhaol yn rhoi cyfle hefyd i addasu ardal ddiffaith ac ail-greu codiadau tir artiffisial i wella’r tirwedd. Mae tirwedd amrywiol y safle yn creu cyfleoedd am ddyluniad diddorol i’r trac cylch ac mae’n addas ar gyfer cynnwys llwybrau oddi ar y ffordd.
Mae’n bwysig nodi y byddai’r prosiect yn caniatáu gwelliannau ecolegol, plannu o’r newydd a gwell draeniad, gan helpu i adfer a chyfoethogi’r amgylchedd. Byddai llwybrau a hawliau tramwy presennol yn cael eu gwarchod a’u gwella, gan sicrhau bod y Parc Gwledig yn parhau’n agored ac yn lle croesawgar i bawb.
Dywedwch eich Barn
Rydym yn y camau cynnar o ddatblygu’r cysyniad a hoffem glywed eich barn.
- Beth ydych chi’n ei feddwl o’r syniad o Barc Velo yn Wrecsam?
- Pa gyfleusterau a fyddai fwyaf defnyddiol ichi?
- Beth fyddai’r ffordd orau o sicrhau bod y cynllun yn cefnogi clybiau, teuluoedd, ysgolion a grwpiau cymunedol lleol?
Bydd eich adborth yn helpu i ddylanwadu ar sut mae’r prosiect yn esblygu cyn i unrhyw gynlluniau manwl gael eu llunio.
Dros y misoedd nesaf, bydd asesiadau technegol, astudiaethau amgylcheddol a thrafodaethau gyda phartneriaid yn parhau. Bydd eich cyfraniad yn ffurfio rhan bwysig o’r broses hon.
1. Cwblhewch yr arolwg
Rhannwch eich barn am y cynigion.
2. Ychwanegu sylwadau at y map rhyngweithiol
Gollyngwch bin ar y map rhyngweithiol os oes gennych broblem neu syniad yr hoffech ei roi ar waith
Gallai hyn fod ynghylch cyfyngiadau, cyfleoedd neu syniadau penodol i'r safle sydd gennych gyda photensial i wella'r syniadau cychwynnol.


