Skip to content

Mapio Cynnyrch Twristiaeth Beicio Cymru

Mapio Cynnyrch Twristiaeth Beicio Cymru

Prosiect am beth yw hwn?

Uchelgais Cymru yw dod yn brif gyrchfan twristiaeth beicio'r DU. Mae gennym gyfnod cyffrous ar gyfer twristiaeth feicio o'n blaenau, wrth i ni edrych ymlaen gynnal y Tour de France yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2027. Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn manteisio ar y cyfle hwn i greu gwaddol parhaol sydd o fudd i ymwelwyr, cymunedau a busnesau yng Nghymru. Ar ran Llywodraeth Cymru/Croeso Cymru, mae'r prosiect hwn yn mapio llwybrau, seilwaith, gwasanaethau a phrofiadau beicio presennol ar arfaethedig ar hyd a lled Cymru. Y bwriad yw helpu siapio buddsoddiad, marchnata a chynlluniau ar gyfer datblygu canolfannau cyrchfannau beicio ledled y wlad yn y dyfodol.

Mae Owen Davies Consulting, gyda chefnogaeth Anian, wedi'i benodi i arwain y gwaith. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn deall sut y gall blaenoriaethau beicio lleol a rhanbarthol gysylltu â – a chefnogi - phrofiadau beicio ar gyfer ymwelwyr a thwristiaeth i Gymru.

Ar gyfer pwy mae hwn?

Mae'r platfform hwn ar gyfer rhanddeiliaid sy'n ymwneud â, neu sy’n meddu gwybodaeth am:

  • Cynllunio a chyflenwi seilwaith beicio
  • Datblygu twristiaeth a rheoli cyrchfannau
  • Sefydliadau beicio, awyr agored a theithio llesol
  • Llety, atyniadau a gwasanaethau i ymwelwyr
  • Digwyddiadau, llwybrau neu gyfleusterau sy'n gysylltiedig â beicio.

Mae hyn yn cynnwys Awdurdodau Lleol, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Sefydliadau Datblygu a Marchnata Cyrchfannau, partneriaid Llywodraeth Cymru, cyrff beicio, busnesau twristiaeth a sefydliadau cymunedol.

Sut allwch chi helpu

Mae eich gwybodaeth leol yn hanfodol. Rydym yn gofyn i randdeiliaid ein helpu trwy:

  • Nodi buddsoddiad beicio presennol neu arfaethedig ar lefelau lleol neu ranbarthol
  • Tynnu sylw at ble mae’r seilwaith beicio yn cefnogi (neu yn gallu cefnogi) twristiaeth a phrofiadau i ymwelwyr
  • Ddynodi bylchau, cyfyngiadau, cyfleoedd neu syniadau sy'n dod i'r amlwg.

Diolch am gyfrannu at yr arolwg a’r map rhyngweithiol. Mae’r ddau bellach wedi cau ar gyfer dadansoddi. Os oes gennych unrhyw wybodaeth ychwanegol yr hoffech ei rhannu, cysylltwch â thîm yr astudiaeth yn owen@owendaviesconsulting.co.uk.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd yr holl wybodaeth yn bwydo map cynnyrch twristiaeth beicio cenedlaethol ar gyfer Cymru. Bydd hyn yn helpu:

  • Llywio penderfyniadau yn ymwneud â buddsoddiadau a blaenoriaethau yn y dyfodol
  • Gyda’r gwaith o ddatblygu canolfannau cyrchfan, llwybrau a phrofiadau beicio
  • Siapio gwaith marchnata ac offer digidol ar-lein Croeso Cymru

Diolch am gyfrannu eich gwybodaeth ac am ein helpu i lunio dyfodol twristiaeth feicio Cymru.

Cymerwch ran:

The team

Welsh Government logo
Owen Davies Consulting logo
Anian logo